Croeso i wefan Cyngor
Cymuned Mawddwy
Lleolir yr ardal hon yn Ne-Ddwyrain Gwynedd, ac
o fewn Etholaeth Dwyfor Meirionnydd.
Dyma ran uchaf Dyffryn Dyfi, yn ymestyn o Aberangell i Fallwyd a
Dinas Mawddwy, ac ymlaen i Lanymawddwy ac at Fwlch y Groes. Mae'r
gefnffordd A470 yn rhedeg drwy'r plwyfi at Fwlch yr Oerddrws, ynghyd
a'r A458 drwy Gwm Dugoed i Bwlch y Fedwen a chyfeiriad y Trallwm –
sef ardal y Gwylliaid Cochion.
Dyma gefn gwlad ar ei orau – lle cwbwl gymreig, gyda bwrlwm o fywyd
cymdeithasol a diwylliannol. Mae'n ardal gwerth ymweld a hi. Yn
wasgaredig ei phoblogaeth, amaethyddiaeth yw'r prif gyflogwr.
Gwasanaethu wardiau Aberangell, Dinas Mawddwy a Llanymawddwy
Cyngor Cymuned Mawddwy
Cyngor Cymuned Mawddwy © 2024
Website designed and maintained by H G Web Designs